Ein nod yw dwyn cleients ac artistiaid ynghyd i gomisiynu gweithiau celf ar safleoedd penodol fydd yn goresgyn disgwyliadau'r cleient. Mae gennym wybodaeth eang a dirnadaeth lwyr o ddull pracis artistiaid mewn celfyddyd gain a chelfyddyd gymhwysol ac yr ydym yn ymholi'n gyson am artistiaid newydd i'w hychwanegu ar ein databas.
Arweinir yr ochr artistig o'r gyfundrefn gan Mererid Velios, sydd a gyrfa brofedig mewn goruchwylio comisiynau celf cyhoeddus a pharatoi strategaethau celf cyhoeddus yn ystod ei chyfnod fel Prif Oruchwyliwr gyda Cywaith Cymru. Dros y pum mlynedd gyda Cywaith Cymru bu'n goruchwylio comisiynau ar gyfer:
adnewyddu Stryd Fawr Casgwent,
adnewyddu stryd Princess Way yn Abertawe,
arddangosfa dros dro yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru,
yn ogystal a llawer o rai eraill.
Ymysg y strategaethau a baratodd yw'r rhai ar gyfer Pont Geltaidd yng Nghaergybi, canol tref Newbridge, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe, a Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Mae Mererid Velios wedi gweithio i'r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, y Llyfrgell Genedlaethol Aberystwyth, ac i adran Cerfluniaeth yn Amgueddfa Victoria ac Albert yn ei swydd fel Curadur Cynorthwyol.
Y mae gwasanaeth IT Celfwaith yn cael ei gyflenwi gan gwmni sydd mewn partneriaeth a Celfwaith, sef Softicon, cwmni sy'n darpar cymorth llawn i'r safle we a'r databas. Mae Softicon hefyd yn meddu arbenigedd mewn creu delweddau gweledol 3D.