deadline for applications
description
Cyflwyniad
Mae Rhodri Owen (dylunydd a gwneuthurwr Cadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2017) yn chwilio am artistiaid â'r gallu i gynnal gweithdai celf ar gyfer grwpiau cymunedol amrywiol mewn orielau ar draws Cymru yn ystod y deg mis nesaf.
Edrychir am amrywiaeth o gyfryngau.
Cefnogir prosiect Rhodri, I’r Byw/ To The Quick gan grant Cyngor Celfyddydau Cymru, a bydd cynnyrch y gweithdai yn rhan o gelfwaith terfynol y prosiect fydd yn cael ei arddangos mewn 7 oriel a sefydliad yn ystod 2018.
Prosiect I’r Byw/ To The Quick
Ar derfyn y prosiect bydd Rhodri wedi creu corff o gelf gweledol sy‘n arwain ymlaen o friff Cadair yr Eisteddfod.
Bydd y prosiect yn ymdrin ag effaith profiadau a thaith bywyd ar bobl. Mae dau ystyr i I’r Byw/To The Quick: sut mae profiadau yn ein cyffwrdd yn emosiynol, ac hefyd symud y sylw o gofio’r gorffennol at y byw – at heddiw a’r dyfodol.
I fynegi’r themau creir dodrefn crefftus gan Rhodri – gwrthrychau bob dydd cyfarwydd i bawb – fel canfasau glân i’w trawsnewid, yn ddinistriol o bosib, gan grwpiau cymdeithasol i adlewyrchu eu profiadau o fyw.
Gwrthgyferbynir rhain gyda set o ddodrefn heb eu newid yn yr arddangosfa derfynol fydd yn fewnosodiad 3D wedi ei ddylunio i greu 'impact'.
Cydnabyddir gwaith yr artistiaid a’r grwpiau.
Y Briff
Man cychwyn y prosiect fydd darn o ddodrefn o waith llaw gan Rhodri. Bydd y grwp o dan arweiniad yr artist yn gallu gweithio gyda'r darn mewn unrhyw ffordd e.e.
- Rhoi geiriau dros y dodrefnyn a/neu eu farcio mewn ffyrdd eraill - sgriffinio, torri mewn, llosgi, printio, paentio, graffiti;
- Newid y dodrefnyn mewn ffordd fwy gweledol – newid y siap i greu cerflun gwahanol, gorchuddio/lapio, malurio, ail-ludo a.y.y.b;
- Ymchwilio i fewn i'r berthynas rhwng ein corff a'r dodrefnyn.
Bydd Rhodri yn bresennol yn y gweithdai ac, yn y cefndir ac yn gallu rhoi cymorth i'r artist os bydd angen wrth i’r grwp weithio ar y dodrefnyn, ond yr artist fydd yn ledio'r gweithdai.
Bydd angen sicrhau casglu adborth o'r bobl sy'n cymryd rhan a mi fydd ffurflen adborth i'w rhannu.
Bydd y gwaith yn y gweithdai yn cael ei ffilmio gan gwmni teledu proffesiynol, a bydd fideo ddogfenol yn rhan o’r arddangosfa derfynol.
Y Gofynion
Rydym ni’n agored i amrywiaeth fawr o syniadau a chyfryngau ar gyfer y prosiect hwn.
Rydym ni’n awyddus i gael syniadau creadigol ar gyfer sut y gall pobl gymryd rhan ac fydd hefyd yn datblygu sut mae Rhodri yn gweld ei waith.
Dylech ddarparu’ch cynnig, a chofio bod angen iddo gynnwys y canlynol:
- Braslun o’ch syniad a sut y byddech yn cyflenwi’r prosiect
- Yr amserlen – nifer o weithdai (o fewn y ffi £300) a’r cyfnodau rydych ar gael
- Enghreifftiau o waith blaenorol perthnasol (pdf neu powerpoint) a CV byr
- Pa iaith (Cymraeg a/neu Saesneg) – bydd y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer rhai o’r gweithdai.
Y Lleoliadau
- Bangor – Storiel 24ain Awst 2017
- Machynlleth – MOMA
- Parc Cenedlaethol Eryri – union leoliad i'w gadarnhau
- Llangefni - Oriel Ynys Môn
- Caerdydd - Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan
- Caerdydd – Crefft yn y Bae
- Caernarfon – Galeri
Mwy na thebyg, bydd y gweithdai yn sesiynau dydd - rhagwelir rhwng 10.00am a 4.00pm gyda thoriad am ginio.
Sut i gyflwyno’ch cynnig
Mae dyddiad pendant ar gyfer gweithdy Storiel, Bangor, felly sicrhewch eich bod ar gael y diwrnod yna cyn gwneud cais.
Dylech gyflwyno’ch cynnig drwy ebost at mererid@celfwaith.co.uk
Os ydych yn danfon ffeil mawr, defnyddiwch wetransfer i ddanfon y ffeil.
Gwnewch yn sicr bod eich cais yn dweud yn glir os ydych yn gwneud cais am bob/unrhyw lleoliad neu lleoliad penodol.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â mererid@celfwaith.co.uk neu owensosgo@gmail.com
DYDDIADAU CAU:
Storiel, Bangor: 20fed Gorffennaf 2017
Lleoliadau eraill: 4ydd Medi 2017