Rheolaeth prosiectau comisiwn celf cyhoeddus
Mae hyn yn cynnwys y gwasanaethau canlynol:
- Cyngor ynglun â safleoedd, cyllidebau yn ogystal â’r syniadaeth y tu ôl i’r gwaith celf.
- Datblygu’r briff ar gyfer artist.
- Rheolaeth o’r broses o ddewis artist.
- Cymorth gyda chytundebau ar gyfer artistiaid.
- Arolygu datblygiad y comisiwn a rhoi adroddiad cyson i’r cleient.
- Goruchwylio gosod y celfwaith.
Os oes gennych eisioes y gallu a’r cymhwysterau i reoli comisiwn celf cyhoeddus, ond mewn angen cyngor ac arweiniad ynglun â dewis artist, gallwn gynnig gwasanaeth ychydig mwy cyfyngedig na’r gwasanaeth a nodir uchod. Medrwch ein penodi i gyflawni 1 i 3 yn unig os bydd hynny yn cyfarfod a’ch gofynion.
Gellir cynnwys gwasanaethau ychwanegol hefyd os dymunwch, tebyg i godi arian a chyhoeddusrwydd.
Paratoi strategaethau celf cyhoeddus, astudiaethau dichonadwy a polisiau celf cyhoeddus
Naill ai fel dogfen yn sefyll ar ei phen ei hun neu fel rhan o brif gynllun cynhwysfawr. Gallwn greu strategaethau celf cyhoeddus ar gyfer trefi, parciau, ysbytai, bwrdeistrefi ynghyd â chylluniau adfywio penodol.
Dewis artistiaid ar gyfer comisiwn preifat
Os mai unigolyn neu gwmni bychan ydych sy’n awyddus i gomisynnu celfwaith gwreiddiol neu ddarn o grefft defnyddiol, gallwn ymweld a chwi yn eich cartref neu swyddfa, a’ch cynghori wrth ddewis yr artist gorau ar eich cyfer chwi.
Delweddau tri dimensiwn
Gallwn greu darluniadau digidol realistig o gynlluniau artist oddiwrth fodelau a darluniau a luniwyd ar raddfa fychan.
Data-basau
Gallwn greu data-basau at eich chwaeth os hoffech greu eich data-bas artist eich hunan neu ddata-bas o weithiau celf.