Cerflunwaith Porth Blaenafon

Cerflunwaith Porth Blaenafon

description

Cefndir

Gobrwyd Blaenafon a’r tirlun diwydiannol o’i chwmpas yn Rhagfyr 2000 pan gyflwynodd y Mudiad Addysgol, Gwyddonol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig (UNESCO) Dirwedd Diwydiannol Blaenafon fel Safle Treftadaeth Y Byd o dan Gonfensiwn Treftadaeth Byd 1972 i warchod treftadaeth diwyllannol a naturiol y byd. Yn ei gymeradwyaeth fe amlinellodd Llywodraeth y DU bwysigrwydd yr ardal.

“Mae Tirlun Diwydiannol Blaenafon yn cynnwys nifer helaeth o gofadeiladau o werth eithriadol o fewn cydestun tirlun cyfoethog a chreiriol di-dor, ac yn dwyn y Chwyldro Diwydiannol i’r côf yn rymus. Mae’n un o’r prif ardaloedd yn y byd lle mae modd astudio a deall yr holl broses gymdeithasol, economaidd a thechnolegol wrth wraidd diwydianeiddio drwy gynhyrchiad haearn a glo.”

Yn Ionawr 2008 apwyntwyd Celfwaith gan Gyngor Bwrdeisdref Torfaen i reoli cystadleuaeth dylunio celf gyhoeddus fyddai’n chwilio’n benodol am grefftwyr i ddatblygu cynigion am gelf gyhoeddus yn Blaenafon ac i’r Llwybrau Haearn. Detholwyd wyth crefftwr i ddatblygu cynigion safle-benodedig ac fe gawsant eu cyflwyno i grwp mawr o drigolion Blaenafon.

Pwrpas yr ymarferiad yma oedd i symbylu syniadau a thriniaethau newydd tuag at gelf gyhoeddus gan dynnu mewn artistiaid oedd yn meddu ar sgiliau dylunio neu wneuthuriad sylweddol, ond efallai oedd heb gael cyfle i weithio ar raddfa fawr neu yn y maes cyhoeddus o’r blaen. Roedd gobaith hefyd y byddai’r cynigion cysyniadol a gyflwynwyd yn gallu cael eu datblygu wrth adfywio Blaenau’r Cymodd yn y blynyddoedd i ddod.

Y Comisiwn

Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, cafodd Celfwaith ei apwyntio unwaith eto i gyflawni dau brosiect celf gyhoeddus ym Mlaenafon fel rhan o Gynllun Adfywio Canol Tref Blaenafon gwerth £1.7miliwn (2006-2009) arianwyd gan Gronfa Adfywio Ffisegol Lywodraeth Cynulliad Cymru a Nawdd Gwella Trefi gan yr Adran Economi a Thrafnidiaeth.

Dau o’r wyth crefftwr a ddewiswyd yn wreiddiol i ddatblygu cynigion celf gyhoeddus ar gyfer gwahanol leoliadau ym Mlaenafon a’r cylch oedd Teucer Wilson a Matthew Tomalin. Cawsai eu syniadau dderbyniad gwresog ac roedd awydd iddynt gydweithio ar un comisiwn a fyddai’n cyfuno arbenigedd Wilson ym maes llythrennu a chrefft gwaith metel Tomalin.

Dyluniwyd cerflun ganddynt i’w ffurfio o wydr a dur corten, a’i ffurf gyffredinol yn cynrychioli croestoriad ffwrnais chwyth nodweddiadol. Mae’r ddwy haen wydr yn cynnwys testun a ddyluniwyd gan Wilson, sef arwyddair y dref. Mae’r gwydr yn rhoi lliw i’r cerflun hefyd, yn goch ac oren disglair, gan bwysleisio’r cyfeiriad at y ffwrnais.