Meini Jwrasig – Ffordd Liniaru Weymouth

Meini Jwrasig – Ffordd Liniaru Weymouth

description

I baratoi ar gyfer cynnal cystadlaethau hwylio Gemau Olympaidd 2012 yn Weymouth a Portland, adeiladodd Cyngor Sir Dorset ffordd liniaru fawr newydd o Dorchester i Weymouth. Wrth dorri ffordd newydd crëir tirweddau newydd a golygfeydd newydd a werthfawrogir gan filoedd o fodurwyr bob dydd. Oherwydd maint y ffordd liniaru a’r cyfle unigryw yr oedd yn ei gynnig, cynigiwyd yng Nghynllun Comisiynu Weymouth a Portland am 2012 y dylai celf gyhoeddus chwarae rhan i helpu sicrhau bod y ffordd newydd yn borth deniadol a chroesawus i Weymouth. Penodwyd dau artist i ddatblygu cynigion ar gyfer gweithiau celf parhaol a fyddai’n gaffaeliad gweledol i’r daith, ac i ddatblygu a gweithredu prosiect dros dro gyda chymuned Littlemoor lle byddai’r ffordd newydd yn cael yr effaith fwyaf. (Gweler prosiect Claire Barber yma http://www.celfwaith.co.uk/cym/node/1732 )

Archwiliodd Richard Harris y cyfleon o fewn y cynllun ffordd i gynnwys gwaith celf yn y dirwedd newydd a gâi ei chreu fel rhan o’r ffordd. Ymateb Richard i’r safle oedd canolbwyntio ar y ddaeareg i ddatgelu peth o’r deunydd a gloddiwyd fel rhan o broses torri’r ffordd.

Ar Southdown Ridge cloddiwyd peth wmbredd o bridd a cherrig i greu hafn ddofn, a syniad Richard Harris oedd defnyddio rhyw 20 o’r cerrig mwy a gloddiwyd i greu cae o feini’n hofran, wedi’u codi ar bolion dur tal ar safle allweddol yn agos at eu safleoedd gwreiddiol o fewn yr haenau daearegol.

Mae’r safle ar gyfer y gwaith o fewn yr ardal dirlunio sydd nesaf at y gylchfan Jwrasig yn Littlemoor, lle gall modurwyr gymryd y ffordd newydd dros Southdown Ridge i Weymouth. Bydd y meini’n sefyll ar golofnau dur sgleiniog gloyw’n codi allan o ddŵr llonydd, yn ymestyn hyd at saith metr uwchben y dŵr. Mae’r cerrig yn clystyru’n haid neu siâp cromen ryw 20 metr o led ar ei lletaf. Wrth yrru o’u cwmpas, cewch werthfawrogi eu ffurf gyffredinol a’u maint, a chael eich atgoffa mewn modd dramatig am y ddaeareg gudd sydd dan y ddaear y teithiwn drosti.

Yn ogystal ag apelio at fodurwyr, caiff y cerflun ei werthfawrogi hefyd gan gerddwyr sy’n defnyddio ffordd Littlemoor gerllaw, ffordd eithaf prysur sy’n arwain i’r ganolfan siopa gyfagos. O’r rhwydwaith o ffyrdd, llwybrau a lonydd beic sy’n amgylchynu’r cerflun bydd y gwaith i’w weld o bob cyfeiriad, a’i lonyddwch yn amlwg ynghanol y traffig di-baid.

Rhoddwyd statws Treftadaeth Byd i Arfordir Dorset a Dwyrain Dyfnaint yn 2001 oherwydd bod y creigiau yn y clogwyni’n gofnod unigryw o 185 miliwn o flynyddoedd o hanes y Ddaear o ddechrau’r Cyfnod Triasig 250 miliwn o flynyddoedd yn ôl hyd ddiwedd y cyfnod Cretasaidd 65 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Mae pob haen o graig yn dudalen arall mewn hanes o newid amgylcheddau ac esblygu ffurfiau bywyd. Yr arfordir yw’r lle gorau i weld y cofnod hwn gan fod erydiad wedi torri trwy’r haenau craig a’u gwneud yn hawdd eu gweld. Ymhellach i mewn i’r tir mae’n anoddach astudio haenau’r graig ond mae’n hawdd iawn gwerthfawrogi eu heffaith ar y dirwedd. Mae Ffordd Liniaru Weymouth yn torri trwy greigiau a ymffurfiodd rhwng 160 a 65 miliwn o flynyddoedd yn ôl, haenau sydd i gyd yn weladwy ar hyd yr arfordir. Y calchfeini caled sy’n ffurfio’r bryniau a’r esgeiriau a’r cleiau meddal yw’r dyffrynnoedd. Ffurfiwyd Southdown Ridge gan gyfres o fandiau calchfaen caled â chreigiau meddalach rhyngddynt. Haenau Cwrelaidd yw’r enw arnynt ac fe’u ffurfiwyd mewn cyfnod pan oedd lefelau’r môr yn pendilio, a buasai’r hinsawdd yma wedi bod yn debyg i’r hyn a geir yn y Bahamas. Daw’r cerrig y dewisodd Richard Harris eu defnyddio ar gyfer ei gerflunwaith o ganol yr haenau hyn.

Mae’r meini hyn a’u siapiau od yn enghreifftiau o’r hyn y mae daearegwyr yn eu galw’n ‘goncretiadau’. Maent wedi dod o haen o dywodfaen o’r enw Grut Bencliff a ymffurfiodd ryw 155 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn ystod y cyfnod Jwrasig. Yn fuan iawn wedi i’r haenau tywod gael eu gosod i lawr dechreuodd mwynau gronni o amgylch tameidiau o blanhigion neu gregyn o fewn y gwaddod. Yn araf bach, dechreuodd y mwynau hyn lenwi’r bylchau rhwng y gronynnau tywod o amgylch y tameidiau hyn gan ffurfio ‘talpiau’ caled iawn o fewn y tywodfaen. Pan edrychwn ar Rut Bencliff heddiw gwelwn mai tywodfaen meddal iawn ydyw gan mwyaf sy’n briwsioni’n hawdd yn ein dwylo, ond o fewn yr haenau o dywodfaen meddal ceir y cerrig caled iawn hyn o wahanol siapiau a meintiau.