Troell Blaenafon

Troell Blaenafon

description

Cefndir

Gobrwyd Blaenafon a’r tirlun diwydiannol o’i chwmpas yn Rhagfyr 2000 pan gyflwynodd y Mudiad Addysgol, Gwyddonol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig (UNESCO) Dirwedd Diwydiannol Blaenafon fel Safle Treftadaeth Y Byd o dan Gonfensiwn Treftadaeth Byd 1972 i warchod treftadaeth diwyllannol a naturiol y byd. Yn ei gymeradwyaeth fe amlinellodd Llywodraeth y DU bwysigrwydd yr ardal.

“Mae Tirlun Diwydiannol Blaenafon yn cynnwys nifer helaeth o gofadeiladau o werth eithriadol o fewn cydestun tirlun cyfoethog a chreiriol di-dor, ac yn dwyn y Chwyldro Diwydiannol i’r côf yn rymus. Mae’n un o’r prif ardaloedd yn y byd lle mae modd astudio a deall yr holl broses gymdeithasol, economaidd a thechnolegol wrth wraidd diwydianeiddio drwy gynhyrchiad haearn a glo.”

Yn Ionawr 2008 apwyntwyd Celfwaith gan Gyngor Bwrdeisdref Torfaen i reoli cystadleuaeth dylunio celf gyhoeddus fyddai’n chwilio’n benodol am grefftwyr i ddatblygu cynigion am gelf gyhoeddus yn Blaenafon ac i’r Llwybrau Haearn. Detholwyd wyth crefftwr i ddatblygu cynigion safle-benodedig ac fe gawsant eu cyflwyno i grwp mawr o drigolion Blaenafon.

Pwrpas yr ymarferiad yma oedd i symbylu syniadau a thriniaethau newydd tuag at gelf gyhoeddus gan dynnu mewn artistiaid oedd yn meddu ar sgiliau dylunio neu wneuthuriad sylweddol, ond efallai oedd heb gael cyfle i weithio ar raddfa fawr neu yn y maes cyhoeddus o’r blaen. Roedd gobaith hefyd y byddai’r cynigion cysyniadol a gyflwynwyd yn gallu cael eu datblygu wrth adfywio Blaenau’r Cymodd yn y blynyddoedd i ddod.

Y Comisiwn

Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, cafodd Celfwaith ei apwyntio unwaith eto i gyflawni dau brosiect celf gyhoeddus ym Mlaenafon fel rhan o Gynllun Adfywio Canol Tref Blaenafon gwerth £1.7miliwn (2006-2009) arianwyd gan Gronfa Adfywio Ffisegol Lywodraeth Cynulliad Cymru a Nawdd Gwella Trefi gan yr Adran Economi a Thrafnidiaeth.

Roedd Sue Hiley Harris yn un o’r wyth crefftwr ddewiswyd yn wreiddiol i ddatblygu cynigion celf cyhoeddus ac un o’i chynigion hi ar gyfer safle ym Mlaenafon a adwaenir fel y ‘safle bwlch’, oedd wedi dwyn ffafriaeth y rhan fwyaf o’r rhai oedd yn bresennol yng nghyflwyniadau’r artistiaid. Bwlch rhwng dau dŷ ar ben Broad Street yw’r safle, ac nid oedd iddo unrhyw hunaniaeth na phwrpas clir. ’Doedd na ddim yn hardd iddo ac nid oedd yn gwneud unrhyw gyfraniad o bwys i natur a bywiogrwydd canol y dref.

Ei chynigiad oedd i greu ffurf siap troell mewn carreg, o fewn safle palmantog, fuasai’n codi’n raddol o’r ddaear i uchder sedd. Tywodfaen Las Pannant holltiog o Chwarel Gwrhyd ger Abertawe yw arwyneb uchaf y droell, yr un garreg a ddefnyddwyd ar gyfer y palmentydd ar y safle a thrwy Blaenafon i gyd. Sut bynnag, mae i’r blociau mawr yma yml lifiwyd gyda deimwnt ar eu chwe yml a chafodd y top a’r ymylon eu fflamio i roi gorffeniad manwl a gwydn sy’n anhebyg o hollti.

Y tu ôl i’r droell ac yn dilyn ei droad, rhoddwyd nifer o byst dur corten wedi eu gosod yn y ddaear, mewn siap ‘moch’ – y bariau haearn oedd yn cael eu creu yn y broses gwneud dur ac a gafodd eu cludo dros y byd. Wedi ei stampio ar y moch mae enwau’r gwledydd y gyrrwyd yr haearn iddynt o Blaenafon. Fel mae’r droell yn codi o’r ddaear, ac fel mae’r moch yn raddol ehangu mewn maint, cyfeirir at y mwynau naturiol a gloddwyd o’r ddaear yn yr ardal yma o dde Cymru a ddaeth yn asedau gwerthfawr i’w masnachu.

Dyluniodd Sue Hiley Harris y gwaith celf hwn gyda chyngor tirluniol a chymorth gan Andrew Nevill. Mae’r garreg o Chwarel Gwrhyd a gwnaethpwyd y moch dur corten gan DAR Design.